
NireBlog mewn ieithoedd eraill: ar|ast|br|ca|cy|de|en|es|eu|gl|oc|pt|pt_br|ru|zh|an|ga|ja|ko|tr|
Blogs with Tag "Ubuntu"
carloszarapuz elblogdebenyi ivangutierrez javiertoledano laprofe meth miblogdelinux ube ubuntucymraeg ubuntutic
Creu dy Flog am Ddim2008-05-01 » Os wyt ti'n gyfarwydd gyda rhaglenni fel iTunes i drefnu a chware cerddoriaeth byddi wrth dy fodd gyda rhaglen Amarok. Llwytha'r rhaglen drwy'r Rheolwr Pecynnau Synaptic ac yna cer ati i lwytho dy gasgliad cerddoriaeth i Amarok. Wrth lwytho Amarok drwy synaptig efallai bydd Ubuntu yn gofyn i ti lwytho sgriptiau [...]
2008-04-24 » Mae'r fersiwn newydd hir ddisgwyliedig o Ubuntu, sef y crychcydd cadarn (Hardy Heron) neu Ubuntu 8.04 wedi ei ryddhau heddiw ar Ebrill 24 2008. Bydd hwn yn fersiwn cefnogaeth tymor hir (LTS ), a bydd y fersiwn penbwrdd yn derbyn cefngaeth tan Ebrill 2001, a'r fersiwn gweinydd tan Ebrill 2013. Llwytho Ubuntu [...]
2008-04-06 » Rhaglen fach ddefnyddiol sydd yn y cronfeydd meddalwedd yn Ubuntu yw rhaglen Record My Desktop. Defnyddia'r Rheolwr Pecynnau Synaptic i lwytho'r rhaglen a'r rheolwr graffegol. Wedyn cer i Rhaglenni-> Sain a Fideo -> gtk-recordMYDesktop i gychwyn recordio'r hyn sy'n digwydd ar y penbwrdd. Mae modd i ti ddewis recordio ffenest neu'r [...]
2008-04-03 » Mae'r fersiwn newydd o Open Office (Cymraeg) Debian ac Ubuntu yn barod i lwytho yn y cronfeydd meddalwedd. Er mwyn sicrhau bod y fersiwn Gymraeg ar dy system gwna'n siwr bod pecyn openoffice.org-|10n-cy wedi ei lwytho yn y Rheolwr Pecynnau Synaptic Gwybodaeth bellach: Gwefan Gymraeg Open Office
2008-03-30 » Beth yw Cronfeydd Ubuntu Un term sy'n cael ei ddefnyddio'n gyson ar fforymau ac mewn dogfennaeth Ubuntu yw "repository". Y term Cymraeg am hwn yw cronfa (neu storfa) ac mae'n cyfeirio at y miloedd o raglenni sydd ar gael i sefydlu ar system Ubuntu. Mae'r rhaglenni hyn yn cael eu storio [...]
2008-03-30 » Mewn cystadleuaeth hacio ddiweddar llwyddwyd i hacio Mac Afal a chyfrifiadur Windows Vista, ond methwyd canfod bwlch yn nioglewch cyfrifiadur Ubuntu. Y Mac aeth gyntaf, wedyn y cyfrifiadur Vista, ac ar ddiwedd y tri diwrnod roedd y cyfrifiadur Ubuntu yn dal heb ei hacio. Stori'n llawn: Fforwm Ubuntu PC World
2008-03-29 » Mae llawer o raglenni Linux yn creu a defnyddio ffeiliau fideo yn fformat ogg. Os wyt ti eisiau newid ffeil fideo o fformat ogg i fformat avi ar gyfer ei llwytho i youtube er enghraifft, mae modd gwneud hyn yn hawdd gyda Mencoder. I ddechrau gwna'n siwr bod mencoder wedi [...]
2008-03-24 » Newydd uwchraddio i Ubuntu 8.04 Beta Hardy Heron (Crychydd Cadarn!). Bydd y fersiwn derfynnol ar gael ar Ebrill 24, a bydd yn un LTS - sef cefnogaeth tymor hir. Mae 8.04 yn cynnwys nifer o bethau newydd i'r defnyddiwr, ac mae rhestr a disgrifiad o'r rhain ar gael ar wefan Ubuntu. Gan [...]
2008-03-06 » Rhaglen fach syml a difyr yw rhaglen Conky sy'n helpu i gadw llygad ar dy system a gweld beth sy'n gwneud beth. Clicia ar y bawdlun i gael gweld hwn ar waith, a darllen mwy os wyt am wybod sut i lwytho hwn yn Ubuntu. Agor y rheolwr pecynnau synaptig a [...]
2007-11-25 » Wyt ti eisiau cadw copi o dy hoff ffeiliau YouTube ar dy gyfrifiadur? Neu beth am y fideo Sali Mali yna wnaeth ymddangos ar youtube am brynhawn!? Os wyt ti eisiau llwytho ffeiliau YouTube mae modd i ti wneud hynny yn Ubuntu (a systemau Linux eraill) gyda rhaglen youtube-dl. Defnyddia'r Rheolwr [...]
2007-07-08 » Os wyt ti'n gweithio wrth deithio ac eisiau manteisio ar wasanaeth diwifr sy'n cael ei gynnig mewn gwahanol lefydd mae'n werth i ti lwytho Wi-fi Radar ar dy gliniadur. Mae'n declyn bach defnyddiol sy'n gwneud cyflunio diwifr yn hawdd. Defnyddia'r Rheolwr Pecynnau Synaptic i chwilio am a llwytho Wi-fi Radar. Wedi [...]
2007-07-02 » Mae'r busnes newid i Ubuntu wedi achosi i mi drio gwneud rhywbeth gyda'r hen gyfrifiaduron sy wedi bod yn eistedd yn y cwt ers blynyddoedd. Mae gen i hen gliniadur (Toshiba Satellite Pro CDT 450 133MHz gyda 32Mb o RAM), a hen focs ahysbys (700MHz gyda 128Mb o RAM). Dim digon [...]
2007-06-25 » Os wyt ti eisiau defnyddio cof caled allanol ar dy gyfrifiadur Ubuntu, ac yn prynu un wedi fformatio fel ntfs yn hytrach na fat32, bydd angen gwneud y canlynol i sicrhau dy fod yn gallu ysgrifennu i hwn. Yn y gorffennol roedd yn broses gymharol gymhleth, ond erbyn Ubuntu 7.04 [...]
2007-06-21 » Beth am i rywun sydd ag ychydig mwy o glem na fi i fynd ati greu logo Ubuntu Cymru? Syniad gwreiddiol wrth gyfaill o'r Iwerddon. Cefndir tryloyw fyddai'n dda - ond does dim syniad 'da fi!
2007-06-20 » Mae modd i ti gyfrannu at gyfieithu'r fersiwn nesaf o Ubuntu. Bydd Ubuntu 7.10 yn cael ei ryddhau ym mis Hydref 2007 (dyna pam mae'n cael ei alw'n 7.10!). Mae'r ffeiliau iaith ar Launchpad fan hyn.
2007-06-15 » Croeso i flogiwr newydd ar Ubuntu Cymraeg, sef JFW. Mae JFW wedi symud yn gyfangwbl i ddefnyddio Ubuntu'n ddiweddar, ac yn defnyddio'r system ar gyfer pob math o waith. Bydd ei brofiad o ddefnyddio rhaglenni i drafod deunydd aml-gyfrwng gwahanol yn werthfawr iawn. Mae croeso i unrhyw un arall sy'n defnyddio Ubuntu [...]
2007-06-15 » Cam mawr yw newid o Windows i Ubuntu. Gan fy mod i'n mynd drwy'r broses ar hyn o bryd, bydda i'n 'sgwennu ychydig o adroddiadau yn y fan hyn, er mwyn rhannu profiadau gydag unrhywun sydd â diddordeb. Yr amcan yw creu system mor ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg) â phosibl, ar gyfer croes-dorriad [...]
2007-06-11 »
2007-06-10 » Efallai mai un o'r pethau sy'n creu'r penbleth mwyaf i ddefnyddiwr Linux newydd yw strwythur y system, ac yn enwedig yr enwau dieithr. Does dim C: a program files ayb yn Linux, ond mae 'na bethau sy'n swnio'n rhyfedd i ddechrau fel /opt ac /etc. Dyma arweiniad cyflym i strwythur [...]
2007-06-06 » Os oes gen ti ddiddordeb mewn gwefannau ac eisiau arbrofi wrth adeiladu gwefan, neu eisiau potsian, yna mae'n debyg y bydd angen gweinydd prawf arnat ti. Yn hytrach na thalu cwmni am weinydd byw sy'n agored i bawb, beth am redeg gweinydd Apache, MySql a php (LAMP) ar dy gyfrifiadur dy [...]
Cyswllt | Amdanom ni | Nireblog Planet
NireBlog
Multilingual Blogs