2007-07-25 » Tra eich bod yn pendroni, cysgu, sipian gwin Athabasca 'vintage' neu chwarae golff mi es ati i ddyfeisio Blog newydd sbon.
Efo dipyn o help gan Linda, dyma sut mae o'n edrych ar hyn o bryd; ond mae modd ei newid i ffitio tâst pawb.
Beth feddyliech o'r antur?
Idris.
2007-07-23 » Yep dwi wedi cael allwedd i'r fflat erbyn hyn! Felly ymhen pythefnos bydda i yn trigolyn sunny Aberystwyth (neu falle ddim mor heulog dyddiau yma).
Felly ma' 'da fi LOT o waith pacio a symud 'da fi i wneud o hyn tan pryd hynny!
Bydd rhaid i fi sortio mas cysylltiad [...]