Logo NireBlog

NireBlog mewn ieithoedd eraill: ar|ast|br|ca|cy|de|en|es|eu|gl|oc|pt|pt_br|ru|zh|an|ga|ja|ko|tr|

Creu dy Flog am DdimRheoli dy Flog

Wedi anghofio dy gyfrinair?

Hysbysebu » Cyswllt

Blogs with Tag "modd"

idrisrees ubuntucymraeg

Creu dy Flog am Ddim

http://.nireblog.com

Nodweddion

Tag » Tag: "modd"

Radio ar y We yn Ubuntu

2008-08-18 » Mae nifer o ragflenni gwahanol yn Ubuntu i chwarae ffrwd ar y we tebyg i un Radio Curiad. Dau o'r rhai mwyaf poblogaidd i wneud hyn yw Amarok a VLC. Mae cofnod eisoes am ddefnyddio Amarok, ac mae modd i ti lwytho VLC drwy ddefnyddio'r Rheolwr Pecynnau Synaptig. Dyma'r [...]

Addasu Dewislenni yn Ubuntu

2008-08-18 » Mae tair prif ddewislen ar Fwrdd Gwaith cyfrifiadur Ubuntu, sef Rhaglenni, Mannau a System, ac mae modd newid cynnwys y cyntaf a'r olaf o'r rhain. I wneud hyn cer i System-> Hoffterau-> Main Menu. Bydd ffenest newydd debyg i hon yn agor: Ticia'r eitemau rwyt ti eisiau i ymddangos yn dy ddewislenni, [...]

Defnyddio RecordMyDesktop

2008-04-06 » Rhaglen fach ddefnyddiol sydd yn y cronfeydd meddalwedd yn Ubuntu yw rhaglen Record My Desktop. Defnyddia'r Rheolwr Pecynnau Synaptic i lwytho'r rhaglen a'r rheolwr graffegol. Wedyn cer i Rhaglenni-> Sain a Fideo -> gtk-recordMYDesktop i gychwyn recordio'r hyn sy'n digwydd ar y penbwrdd. Mae modd i ti ddewis recordio ffenest neu'r [...]

Cronfeydd Meddalwedd Ubuntu

2008-03-30 » Beth yw Cronfeydd Ubuntu Un term sy'n cael ei ddefnyddio'n gyson ar fforymau ac mewn dogfennaeth Ubuntu yw "repository". Y term Cymraeg am hwn yw cronfa (neu storfa) ac mae'n cyfeirio at y miloedd o raglenni sydd ar gael i sefydlu ar system Ubuntu. Mae'r rhaglenni hyn yn cael eu storio [...]

Defnyddio Mencoder i newid fformat ffeil

2008-03-29 » Mae llawer o raglenni Linux yn creu a defnyddio ffeiliau fideo yn fformat ogg. Os wyt ti eisiau newid ffeil fideo o fformat ogg i fformat avi ar gyfer ei llwytho i youtube er enghraifft, mae modd gwneud hyn yn hawdd gyda Mencoder. I ddechrau gwna'n siwr bod mencoder wedi [...]

Llwytho ffeiliau o You Tube

2007-11-25 » Wyt ti eisiau cadw copi o dy hoff ffeiliau YouTube ar dy gyfrifiadur? Neu beth am y fideo Sali Mali yna wnaeth ymddangos ar youtube am brynhawn!? Os wyt ti eisiau llwytho ffeiliau YouTube mae modd i ti wneud hynny yn Ubuntu (a systemau Linux eraill) gyda rhaglen youtube-dl. Defnyddia'r Rheolwr [...]

Bore da i rwyfwyr y we.

2007-07-25 » Tra eich bod yn pendroni, cysgu, sipian gwin Athabasca 'vintage' neu chwarae golff mi es ati i ddyfeisio Blog newydd sbon. Efo dipyn o help gan Linda, dyma sut mae o'n edrych ar hyn o bryd; ond mae modd ei newid i ffitio tâst pawb. Beth feddyliech o'r antur? Idris.

Defnyddio Wi-fi Radar

2007-07-08 » Os wyt ti'n gweithio wrth deithio ac eisiau manteisio ar wasanaeth diwifr sy'n cael ei gynnig mewn gwahanol lefydd mae'n werth i ti lwytho Wi-fi Radar ar dy gliniadur. Mae'n declyn bach defnyddiol sy'n gwneud cyflunio diwifr yn hawdd. Defnyddia'r Rheolwr Pecynnau Synaptic i chwilio am a llwytho Wi-fi Radar. Wedi [...]

Cyfieithu Ubuntu 7.10 (Gutsy Gibbon)

2007-06-20 » Mae modd i ti gyfrannu at gyfieithu'r fersiwn nesaf o Ubuntu. Bydd Ubuntu 7.10 yn cael ei ryddhau ym mis Hydref 2007 (dyna pam mae'n cael ei alw'n 7.10!). Mae'r ffeiliau iaith ar Launchpad fan hyn.

Diweddaru dy system

2007-05-03 » Mae'n hawdd iawn diweddaru dy system ar Ubuntu. Mae rhaglen debyg i Windows Update Manager ar y system, fydd yn dy atgoffa bob hyn a hyn os oes diweddariadau ar gael. Mae modd i ti hefyd ddiweddaru dy system dy hun drwy System -> Gweinyddiaeth -> Update Manager. Wedi clicio [...]

Defnyddio Terfynell (1)

2007-05-02 » Mae modd cyflawni'r rhan fwyaf o dasgau ar gyfrifiadur sy'n rhedeg Ubuntu drwy'r Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffegol (GUI), neu yn iaith bob dydd, drwy ddefnyddio dewislenni a chlicio ar iconau! Serch hynny, wrth i ti ddod yn fwy cyfarwydd a defnyddio'r system byddi'n canfod ei bod yn haws o lawer weithiau [...]

Mewngofnodi'n awtomatig

2007-05-01 » Ar ol sefydlu Ubuntu rwyt ti'n cyrraedd sgrin fewngofnodi pan fyddi'n dechrau dy gyfrifiadur. O safbwynt diogelwch mae hyn yn beth da, ond gall fod yn niwsans os mai dim ond ti sy'n defnyddio'r cyfrifiadur. Mae'n well gan lawer o bobl fewngofnodi'r awtomatig i'w cyfrifiadur, ac mae modd gwneud hynny'n [...]

Gwneud copi wrth gefn o ffeil xorg.conf

2007-05-01 » Os wyt ti am ddechrau addasu dy system i wneud newidiadau i'r cydraniad sgrin, llwytho penbwrdd 3D ayb. y peth cyntaf y dylet ti wneud yw gwneud copi wrth gefn o ffeil bwysig iawn, sef xorg.conf. Rwy'n siarad o brofiad fan hyn! System X.org yw'r meddalwedd sy'n gyrru dy gerdyn [...]

Cyswllt | Amdanom ni | Nireblog Planet
NireBlog Multilingual Blogs