Logo NireBlog

NireBlog mewn ieithoedd eraill: ar|ast|br|ca|cy|de|en|es|eu|gl|oc|pt|pt_br|ru|zh|an|ga|ja|ko|tr|

Creu dy Flog am DdimRheoli dy Flog

Wedi anghofio dy gyfrinair?

Hysbysebu » Cyswllt

Creu dy Flog am Ddim

http://.nireblog.com

Nodweddion

Tag » Blog: "ubuntucymraeg" » Tag: "dy"

Open Office 2.4

2008-04-03 » Mae'r fersiwn newydd o Open Office (Cymraeg) Debian ac Ubuntu yn barod i lwytho yn y cronfeydd meddalwedd. Er mwyn sicrhau bod y fersiwn Gymraeg ar dy system gwna'n siwr bod pecyn openoffice.org-|10n-cy wedi ei lwytho yn y Rheolwr Pecynnau Synaptic Gwybodaeth bellach: Gwefan Gymraeg Open Office

Llwytho ffeiliau o You Tube

2007-11-25 » Wyt ti eisiau cadw copi o dy hoff ffeiliau YouTube ar dy gyfrifiadur? Neu beth am y fideo Sali Mali yna wnaeth ymddangos ar youtube am brynhawn!? Os wyt ti eisiau llwytho ffeiliau YouTube mae modd i ti wneud hynny yn Ubuntu (a systemau Linux eraill) gyda rhaglen youtube-dl. Defnyddia'r Rheolwr [...]

Defnyddio Wi-fi Radar

2007-07-08 » Os wyt ti'n gweithio wrth deithio ac eisiau manteisio ar wasanaeth diwifr sy'n cael ei gynnig mewn gwahanol lefydd mae'n werth i ti lwytho Wi-fi Radar ar dy gliniadur. Mae'n declyn bach defnyddiol sy'n gwneud cyflunio diwifr yn hawdd. Defnyddia'r Rheolwr Pecynnau Synaptic i chwilio am a llwytho Wi-fi Radar. Wedi [...]

Ysgrifennu i ddisg allanol ntfs

2007-06-25 » Os wyt ti eisiau defnyddio cof caled allanol ar dy gyfrifiadur Ubuntu, ac yn prynu un wedi fformatio fel ntfs yn hytrach na fat32, bydd angen gwneud y canlynol i sicrhau dy fod yn gallu ysgrifennu i hwn. Yn y gorffennol roedd yn broses gymharol gymhleth, ond erbyn Ubuntu 7.04 [...]

Strwythur cyfeiriaduron a ffolderi yn Ubuntu

2007-06-10 » Efallai mai un o'r pethau sy'n creu'r penbleth mwyaf i ddefnyddiwr Linux newydd yw strwythur y system, ac yn enwedig yr enwau dieithr. Does dim C: a program files ayb yn Linux, ond mae 'na bethau sy'n swnio'n rhyfedd i ddechrau fel /opt ac /etc. Dyma arweiniad cyflym i strwythur [...]

Rhedeg gweinydd prawf ar Ubuntu

2007-06-06 » Os oes gen ti ddiddordeb mewn gwefannau ac eisiau arbrofi wrth adeiladu gwefan, neu eisiau potsian, yna mae'n debyg y bydd angen gweinydd prawf arnat ti. Yn hytrach na thalu cwmni am weinydd byw sy'n agored i bawb, beth am redeg gweinydd Apache, MySql a php (LAMP) ar dy gyfrifiadur dy [...]

Athroniaeth Ubuntu

2007-05-31 » Mae athroniaeth Ubuntu yn seiliedig ar y syniad o feddalwedd rhydd a dilyffethair, ac yn sail i'r athroniaeth hon mae tri delfryd craidd:   Dylai pob cyfrifiadur fod yn rhydd i lwytho, rhedeg, copio, dosbarthu, astudio, rhannu, newid a gwella meddalwedd at unrhyw bwrpas, heb dalu ffioedd trwyddedu. Dylai pob defnyddiwr gael dewis [...]

Beth yw Feisty Fawn a phwy yw y Gutsy Gibbon?

2007-05-25 » Yn ogystal a diweddaru dy system yn awtomatig yn gyson, mantais arall o ddefnyddio Ubuntu yw bod dosbarthiad newydd o'r system yn cael ei ryddhau bob rhyw chwech mis. Mae hyn yn golygu bod y system yn medru bod yn berthnasol i'r datblygiadau mwyaf diweddar mewn technoleg, ac nad oes [...]

Creu rhestr o galedwedd y cyfrifiadur

2007-05-23 » Does dim angen i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr Ubuntu wybod dim am eu caledwedd gan bod Ubuntu yn gweithio'n syth o'r bocs. Serch hynny, efallai oherwydd chwilfrydedd, neu oherwydd dy fod eisiau addasu rhywbeth mwy cymhleth, gall fod yn ddefnyddiol ar adegau i gael rhestr wrth law o galedwedd y [...]

Newid thema ac eiconau

2007-05-20 » Mae'n hawdd iawn i addasu Ubuntu a dewis un o'r miloedd o themau sydd ar gael drwy wefannau fel gnome-looks. Yn yr enghraifft hon byddaf yn gosod thema Mac OSX gyda bar gwaelod sy'n cynnwys lansiwr mawr fel yn y llun isod. Yr un yw'r broses ar gyfer unrhyw thema neu [...]

Creu Llwybr Tarw (Llwybr Byr) at raglen

2007-05-15 » Mae creu llwybr tarw neu lwybr byr at raglen neu feddalwedd yn debyg yn Ubuntu i systemau gweithredu eraill. Yn yr enghraifft hon byddaf yn creu llwybr byr at raglen porwr gwe Epiphany, ac yn gosod lansiwr ar y bwrdd gwaith ac mewn panel. I ddysgu sut i wneud hyn [...]

Llwytho Meddalwedd (1) - defnyddio Add/Remove

2007-05-10 » Mae'r broses o lwytho meddalwedd ar gyfrifiadur Ubuntu yn un hawdd sy'n golygu dau neu dri chlic yn unig. Mae nifer o ffyrdd o wneud hyn. Mae'r enghraifft hon yn defnyddio rhaglen Add/Remove. Clicia isod i ddarllen gweddill y cofnod. Yn yr enghraifft hon byddwn yn llwytho rhaglen golygu dv o'r [...]

Llwytho Ubuntu ar gyfrifiadur Windows - Bwt Deuol (dual boot)

2007-05-04 » Mae'r broses o lwytho Ubuntu ochr yn ochr a system fel Windows XP neu Vista yn gymharol hawdd. Os oes gen ti ddiddordeb mewn dysgu sut mae gwneud clicia isod i ddarllen darllen gweddill y cofnod hwn. Paratoi dy system Cyn dechrau meddwl am sefydlu Ubuntu mae'n werth gwneud un neu [...]

Diweddaru dy system

2007-05-03 » Mae'n hawdd iawn diweddaru dy system ar Ubuntu. Mae rhaglen debyg i Windows Update Manager ar y system, fydd yn dy atgoffa bob hyn a hyn os oes diweddariadau ar gael. Mae modd i ti hefyd ddiweddaru dy system dy hun drwy System -> Gweinyddiaeth -> Update Manager. Wedi clicio [...]

Defnyddio Terfynell (1)

2007-05-02 » Mae modd cyflawni'r rhan fwyaf o dasgau ar gyfrifiadur sy'n rhedeg Ubuntu drwy'r Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffegol (GUI), neu yn iaith bob dydd, drwy ddefnyddio dewislenni a chlicio ar iconau! Serch hynny, wrth i ti ddod yn fwy cyfarwydd a defnyddio'r system byddi'n canfod ei bod yn haws o lawer weithiau [...]

Mewngofnodi'n awtomatig

2007-05-01 » Ar ol sefydlu Ubuntu rwyt ti'n cyrraedd sgrin fewngofnodi pan fyddi'n dechrau dy gyfrifiadur. O safbwynt diogelwch mae hyn yn beth da, ond gall fod yn niwsans os mai dim ond ti sy'n defnyddio'r cyfrifiadur. Mae'n well gan lawer o bobl fewngofnodi'r awtomatig i'w cyfrifiadur, ac mae modd gwneud hynny'n [...]

Gwneud copi wrth gefn o ffeil xorg.conf

2007-05-01 » Os wyt ti am ddechrau addasu dy system i wneud newidiadau i'r cydraniad sgrin, llwytho penbwrdd 3D ayb. y peth cyntaf y dylet ti wneud yw gwneud copi wrth gefn o ffeil bwysig iawn, sef xorg.conf. Rwy'n siarad o brofiad fan hyn! System X.org yw'r meddalwedd sy'n gyrru dy gerdyn [...]

Cyswllt | Amdanom ni | Nireblog Planet
NireBlog Multilingual Blogs