
NireBlog mewn ieithoedd eraill: ar|ast|br|ca|cy|de|en|es|eu|gl|oc|pt|pt_br|ru|zh|an|ga|ja|ko|tr|
2008-08-16 » Os wyt ti wedi blino edrych ar yr un hen sgrin beth am fynd ati i newid thema, eiconau a chefndir penbwrdd i rywbeth ychydig yn fwy cyffrous a deniadol. Mae'n broses hawdd iawn yn Ubuntu o ddilyn y cyfarwyddiadau hyn. Byddaf yn defnyddio'r canlynol i greu penbwrdd a thema tebyg [...]
2008-05-01 » Os wyt ti'n gyfarwydd gyda rhaglenni fel iTunes i drefnu a chware cerddoriaeth byddi wrth dy fodd gyda rhaglen Amarok. Llwytha'r rhaglen drwy'r Rheolwr Pecynnau Synaptic ac yna cer ati i lwytho dy gasgliad cerddoriaeth i Amarok. Wrth lwytho Amarok drwy synaptig efallai bydd Ubuntu yn gofyn i ti lwytho sgriptiau [...]
2008-04-06 » Rhaglen fach ddefnyddiol sydd yn y cronfeydd meddalwedd yn Ubuntu yw rhaglen Record My Desktop. Defnyddia'r Rheolwr Pecynnau Synaptic i lwytho'r rhaglen a'r rheolwr graffegol. Wedyn cer i Rhaglenni-> Sain a Fideo -> gtk-recordMYDesktop i gychwyn recordio'r hyn sy'n digwydd ar y penbwrdd. Mae modd i ti ddewis recordio ffenest neu'r [...]
2007-07-08 » Os wyt ti'n gweithio wrth deithio ac eisiau manteisio ar wasanaeth diwifr sy'n cael ei gynnig mewn gwahanol lefydd mae'n werth i ti lwytho Wi-fi Radar ar dy gliniadur. Mae'n declyn bach defnyddiol sy'n gwneud cyflunio diwifr yn hawdd. Defnyddia'r Rheolwr Pecynnau Synaptic i chwilio am a llwytho Wi-fi Radar. Wedi [...]
2007-06-21 » Beth am i rywun sydd ag ychydig mwy o glem na fi i fynd ati greu logo Ubuntu Cymru? Syniad gwreiddiol wrth gyfaill o'r Iwerddon. Cefndir tryloyw fyddai'n dda - ond does dim syniad 'da fi!
2007-06-06 » Os oes gen ti ddiddordeb mewn gwefannau ac eisiau arbrofi wrth adeiladu gwefan, neu eisiau potsian, yna mae'n debyg y bydd angen gweinydd prawf arnat ti. Yn hytrach na thalu cwmni am weinydd byw sy'n agored i bawb, beth am redeg gweinydd Apache, MySql a php (LAMP) ar dy gyfrifiadur dy [...]
2007-06-04 » Mae wedi teithio i'r gofod ar Soyuz TM-34, wedi ffurfio cwmni Thawte Consulting a'i werthu'n ddiweddarach am $500 miliwn, ac wedi cynorthwyo i sefyldu, datblygu a hybu Ubuntu Linux. Mewn cyfweliad diweddar bu Mark Shuttleworth yn trafod ei fywyd, Dell yn gwerthu Ubuntu, a cheisio cael gyrrwyr cod agored wrth [...]
2007-05-23 » Does dim angen i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr Ubuntu wybod dim am eu caledwedd gan bod Ubuntu yn gweithio'n syth o'r bocs. Serch hynny, efallai oherwydd chwilfrydedd, neu oherwydd dy fod eisiau addasu rhywbeth mwy cymhleth, gall fod yn ddefnyddiol ar adegau i gael rhestr wrth law o galedwedd y [...]
2007-05-04 » Mae'r broses o lwytho Ubuntu ochr yn ochr a system fel Windows XP neu Vista yn gymharol hawdd. Os oes gen ti ddiddordeb mewn dysgu sut mae gwneud clicia isod i ddarllen darllen gweddill y cofnod hwn. Paratoi dy system Cyn dechrau meddwl am sefydlu Ubuntu mae'n werth gwneud un neu [...]
2007-05-02 » Mae modd cyflawni'r rhan fwyaf o dasgau ar gyfrifiadur sy'n rhedeg Ubuntu drwy'r Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffegol (GUI), neu yn iaith bob dydd, drwy ddefnyddio dewislenni a chlicio ar iconau! Serch hynny, wrth i ti ddod yn fwy cyfarwydd a defnyddio'r system byddi'n canfod ei bod yn haws o lawer weithiau [...]
2007-05-01 » Os wyt ti am ddechrau addasu dy system i wneud newidiadau i'r cydraniad sgrin, llwytho penbwrdd 3D ayb. y peth cyntaf y dylet ti wneud yw gwneud copi wrth gefn o ffeil bwysig iawn, sef xorg.conf. Rwy'n siarad o brofiad fan hyn! System X.org yw'r meddalwedd sy'n gyrru dy gerdyn [...]
Cyswllt | Amdanom ni | Nireblog Planet
NireBlog
Multilingual Blogs


Creu dy Flog am Ddim